Quantcast
Channel: Ynni Cymru » Llywodraeth
Viewing all articles
Browse latest Browse all 3

Llwybr Sidan – pwy sydd yn barod am ddatganoli ynni?

$
0
0

Llwybr Sidan – pwy sydd yn barod am ddatganoli ynni?

Mae arolwg barn diweddaraf ynglŷn ag datganoli, yn dangos cefnogaeth gref i’r cynnig y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol feddiannu grymoedd dros ynni adnewyddadwy. Yn wir ymysg yr holl gwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg, daeth yr ymateb cryfaf i’r cwestiwn ar ddatganoli ynni – credai 70% o’r rhai a holwyd y dylai ‘Ynni adnewyddadwy gan gynnwys ffermydd gwynt mawr yng Nghymru’ gael eu rheoli gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Tydi hyn ddim yn syndod mewn gwirionedd gan fod pob un o’r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad wedi cefnogi datganoli pellach yn y maes ynni ers blynyddoedd. Cafodd yr arolwg ei gynnal gan gwmni Beaufort Research ar ran Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (neu o gymryd ei enw poblogaidd – Y Comisiwn Silk), a gafodd ei sefydlu gan lywodraeth y D.U. i adolygu trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru.  Er gwaethaf bod Llywodraeth y D.U. eu hunain yn gul iawn ynglŷn ag datganoli pellach mewn unrhyw faes, gellir dyfalu y bydd rhai o’r argymhellion yn ffafrio mwy o ddatganoli yn enwedig yn y meysydd yna sydd yn boblogaidd gyda’r cyhoedd yn ogystal â’r pleidiau gwleidyddol Cymreig.

silk-commission

*Aelodau o Gomisiwn Silk

Cefais gyfle i gymryd rhan mewn seminar gyda’r Commissiwn Silk diwedd mis Mehefin mewn sesiwn arbennig ar ynni a’r system gynllunio. Yn ogystal â’r cadeirydd Paul Silk sydd yn gyn clerc i’r Cynulliad Cenedlaethol, aelodau eraill y Comisiwn y diwrnod hwnnw oedd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Nick Bourne, arbenigwr economaidd Plaid Cymru Eurfyl ap Gwilym, a chyn Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru (o’r blaid Lafur) Jane Davidson. Gwir yw dweud felly bod gan y Comisiwn ddigon o brofiad gwleidyddol ac arbenigedd datganoli, a diddorol fydd gweld pa gasgliadau byddent yn ei gyrraedd ar ôl trafodaeth agored a diddorol iawn. Synhwyrais i o leiaf bod consensws barn yn datblygu rhwng aelodau’r Comisiwn a mwyafrif o’r panel tystion.

Os yw Comisiwn Silk yn argymell y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael fwy o rymoedd ynglŷn ag ynni, ac ynni adnewyddadwy yn benodol, yna fe fydd mwy o drafodaeth wleidyddol yn dilyn wrth i bawb aros i glywed ymateb Llywodraeth y D.U. Ond os fe ddaw argymhelliad o’r fath bydd yno hefyd gwestiynau i’w gofyn a’u hateb gan y diwydiant ynni eu hunain. Er enghraifft sut fydd newid yn y gyfundrefn gynllunio yn effeithio ar hyder y sector? Sut bydd mwy o gyfrifoldeb ac felly atebolrwydd gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod polisïau ynni yn cael eu dilyn a thargedau ynni glan yn cael eu gwireddu? Beth bynnag fydd yn digwydd ni all y diwydiant honni na chawsom digon o amser i ystyried y mater a pharatoi eu hunnain am beth sydd yn debygol o ddigwydd yn y pendraw. Mae’n bwysig bod y diwydiant yma fel diwydiannau eraill yn ymwybodol ac yn barod am newid cyfansoddiadol.


Viewing all articles
Browse latest Browse all 3

Latest Images

Trending Articles





Latest Images